Log inSign up free
  • Home
  • Profile
  • Jobs
    • Applications
    • Career
    • Resume
    • Cover letters
  • Content
    • Posts
    • Media
  • Messages
  • Analytics
    • Overview
    • Pages
    • Events
  • Portfolio
  • More tools
    • Hiring
  • Settings
All jobs
ETEqual Teaching logo

Equal Teaching

Caerdydd, Cardiff

Rheolwr Seren - Academi Seren.

TEMPORARY

Rheolwr Seren – Academi Seren

📍 Lleoliad: De Cymru

💷 Cyflog: £40,000 y flwyddyn

🕒 Cytundeb: Llawn-amser, 37.5 awr yr wythnos

📅 Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl

📄 Tymor: Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027, gyda’r posibilrwydd o estyniad o 3 mlynedd

🗓️ Dyddiad Cau: 5pm Dydd Mercher 21ain Hydref

Trosolwg

Ydych chi’n angerddol am addysg a grymuso dysgwyr? Mae Academi Seren Llywodraeth Cymru yn chwilio am Reolwr Seren newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda thîm sy’n darparu cynnig Seren ledled Cymru i’n dysgwyr disgleiriaf.

Mwy am Academi Seren

Gweledigaeth Academi Seren yw i ddysgwyr, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf. 

Y genhadaeth yw i gefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri amcan strategol: 

  • Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu.
  • Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol. 
  • Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw iawn.

Mae Academi Seren yn darparu rhaglen o gefnogaeth arbenigol a anelir at anghenion ein dysgwyr disgleiriaf ac yn darparu rhaglen hybrid o weithgareddau gorgyrsiol i ymestyn a herio dysgwyr, sy’n datblygu o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13.  

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau

Pwrpas y swydd hon yw i:

  • Ymgysylltu gyda a magu perthnasau gyda’ch ysgolion a cholegau AB dynodedig a’u cefnogi i ddethol y dysgwyr priodol ar gyfer Academi Seren
  • Fod yn wyneb i Seren ar gyfer eich canolfannau dynodedig, gan ateb cwestiynau, darparu cyfleoedd yn yr ardal leol i ddysgwyr gael ymgysylltu gyda’i gilydd, codi uchelgeisiau a hunaneffeithiolrwydd dysgwyr i anelu’n uchel.
  • Sicrhau bod y dysgwyr a’r canolfannau yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd, gweithgareddau a’r profiadau sydd ar gael iddynt fel rhan o’r Academi. 
  • Fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i ysbrydoli dysgwyr a’u dyheadau am eu dyfodol.
  • Ddathlu llwyddiannau dysgwyr a’u canolfannau. 

Y cyfrifoldebau yw i:

  • Sicrhau bod yr holl ddysgwyr Seren a nodir wedi cofrestru gyda’r Academi.
  • Gadw at reoliadau diogelu ar gyfer y grwpiau oedran gwahanol.
  • Weithio ar draws tîm Seren i ddarparu cynnig Cymru gyfan gydgysylltiedig i ddysgwyr.
  • Ymgysylltu gyda dysgwyr i’w hysbysu o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, sut a phryd i wneud y penderfyniadau cywir ac agor drysau iddynt ymgysylltu gyda’r bobl, sefydliadau ac adnoddau cywir i gefnogi eu llwybrau.
  • Annog dysgwyr i ymgysylltu gydag adeiladu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cyrchfan o’u dewis.
  • Adnabod anghenion y dysgwyr o fewn eich canolfannau dynodedig a gweithio gyda’r tîm i gydweithio ar gyfleoedd.
  • Ddod ag athrawon eich canolfannau dynodedig at ei gilydd i gydweithio ar gyfleoedd.
  • Ymgysylltu gyda a hysbysu rhieni/gofalwyr Seren am sut allant gefnogi eu plentyn y ffordd orau. 
  • Bod yn rhagweithiol o fewn y tîm i gefnogi eraill a rhannu gwybodaeth arbenigol ac arferion da. 
  • Nodi enghreifftiau o ddarpariaeth dda ac astudiaethau achos i ddathlu llwyddiannau.
  • Casglu ac adrodd ar ddata a gwariant i gefnogi gwerthuso a gwelliant parhaus y rhaglen.
  • Mynychu isafswm o ddau gwrs preswyl (a gyfeirir atynt weithiau fel ‘Ysgolion Haf Seren’) bob blwyddyn, er mwyn cefnogi darpariaeth llwyddiannus y cyrsiau preswyl gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gyfrifoldebau dros ddiogelu, cefnogaeth bugeiliol i ddysgwyr a darpariaeth y rhaglen. 
  • I weithredu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae eich rheolwr llinell yn gofyn amdanynt er mwyn cyflawni anghenion y swydd a thîm ehangach Seren.

Requirements

Am Beth Rydym yn Chwilio

Rydym yn chwilio am unigolion sydd gan: 

  • Brofiad mewn addysg, gwaith ieuenctid neu allgymorth (mae profiad o weithio gydag ysgolion/colegau yn hanfodol). 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ymgysylltu gyda ac ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhanddeiliaid ehangach.
  • Llwyddiant blaenorol yn trefnu a darparu gweithgareddau cyfoethogi, gweithdai neu ddigwyddiadau.
  • Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser cryf - gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ar draws nifer o leoliadau.
  • Angerdd gwirioneddol dros gydraddoldeb mewn addysg, symudedd cymdeithasol a chefnogaeth i ddysgwyr. 
  • Dealltwriaeth o’r tirwedd addysg yng Nghymru ac ymrwymiad i gefnogi dysgwyr yng Nghymru. 
  • Trwydded yrru lawn a’r parodrwydd i deithio yn eang ar draws y rhanbarth a ddynodir.
  • Parodrwydd i weithio’n hyblyg, gan y bydd y swydd yn golygu peth gwaith yn ystod y penwythnos a gyda’r nos, yn ogystal ag amser yn gweithio i ffwrdd i gefnogi cyflawniad cyrsiau preswyl mewn prifysgolion yn y DU.

 Dymunol (ond nid yn angenrheidiol)

  • Statws Athro Cymwysiedig (SAC)
  • Profiad o weithio ar raglenni mynediad i AU neu ehangu cyfranogiad. 
  • Siaradwr Cymraeg (ceir cefnogaeth gydag ysgrifennu a chyfieithu ar y pryd) 

Benefits

  • Cyflog blynyddol o £40,000
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc ar ben hynny
  • Gweithio hybrid
  • Polisi TOIL am waith gyda’r nos a dros y penwythnos
Pay
Not stated
Where
Caerdydd, Cardiff · Caerdydd, United Kingdom
Work
Not stated
Type
Temporary
Posted
7 Oct, 2026
Apply on the original postingSign in to prepare an application

Verified board

more at Equal Teaching.

8 Oct, 2026

Equal Teaching

Welsh Speaking Teaching Assistant

ETEqual Teaching logo
  • People & Ops

£90–100/yr

Swansea +2

Details
8 Oct, 2026

Equal Teaching

Welsh Speaking Teaching Assistant

ETEqual Teaching logo
  • People & Ops

£90–100/yr

Ammanford +2

Details
8 Oct, 2026

Equal Teaching

Welsh Speaking Teaching Assistant

ETEqual Teaching logo
  • People & Ops

£90–100/yr

Ystalyfera +2

Details

similar roles.

15 Oct, 2026

prudentialplc.com

customer service executive

PCprudentialplc.com logo

    Kuala Lumpur (Takaful)

    Salary not listed

    Details
    15 Oct, 2026

    prudentialplc.com

    Senior Manager, HNW Distribution

    PCprudentialplc.com logo
    • Leadership

    Singapore (Group Head Office)

    Salary not listed

    Details
    15 Oct, 2026

    prudentialplc.com

    Data Support Business Strategy Intern

    PCprudentialplc.com logo
    • Internship
    • Intern

    Jakarta (Prudential Syariah)

    Internship

    Details
    15 Oct, 2026

    prudentialplc.com

    PBTB | Intern IT Governance

    PCprudentialplc.com logo
    • Internship
    • Intern

    Kuala Lumpur (Takaful)

    Internship

    Details
    15 Oct, 2026

    manulife.com

    AVP, Global People Services (Readiness & Innovation)

    MCmanulife.com logo

      Location not stated

      Salary not listed

      Details
      15 Oct, 2026

      manulife.com

      AVP, Global People Services (Pathways)

      MCmanulife.com logo

        Location not stated

        Salary not listed

        Details